BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese

Pynciau


Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Diwylliant

Economi

Addysg

Amgylchedd

Y Teulu

Iechyd

Tai

Materion Gwledig

Yr Iaith Gymraeg

Mesurau newydd ar sbwriel a graffiti; £24 miliwn ar gyfer Y Gronfa Cymunedau Diogelach er mwyn gostwng trosedd; cyllid ar drais teuluol; cynllun newydd ar gyfer y cymunedau tlotaf, swyddogion cymunedol ychwanegol.

Darparu mynediad am ddim i safleoedd treftadaeth Cymru ar gyfer pensiynwyr a theuluoedd sydd â phlant.

Academïau i wella sgiliau pobl; oed 16 i 19 i'w cefnogi i aros yn y byd addysg/dysgu yn y gweithle; £200m cronfa fuddsoddiad busnes sengl; canolfannau ymchwil busnes mewn prifysgolion.

Cyllid newydd ar gyfer Prifysgol y Drydedd Oes; Bagloriaeth Gymreig drwy Gymru; oed 16 i 19 i'w cefnogi i aros yn y byd addysg/dysgu yn y gweithle.

Torri 20% ar Ollyngiadau Nwyon Tŷ Gwydr a holl adeiladau'r llywodraeth i fod yn garbon niwtral erbyn 2020; cynnydd arwyddocaol mewn technoleg paneli solar/micro generadiad; llwybr arfordirol ledled Cymru.

Diwedd i dlodi plant erbyn 2020; gofal meithrin am ddim ar gyfer plant dwyflwydd mewn cymunedau dan anfantais; ehangu ar y cynllun brecwastau am ddim ar gyfer ysgolion cynradd.

Presgripsiynau am ddim; deintydd Ymddiriedolaeth Iechyd Cenedlaethol ar gael i bawb; uchafswm 26 wythnos o aros am driniaeth wedi gweld y meddyg erbyn 2009; nofio chwaraeon campau hamdden am ddim i blant dros y penwythnos.

£450m o fuddsoddiad mewn tai cymdeithasol newydd; buddsoddiad i wella tai cymdeithasol; mwy o dir ar gyfer tai fforddiadwy; cynyddu nifer y bobl hŷn sy'n elwa o fudd-dal y dreth gyngor.

Gweithredu er mwyn atgynhyrchu trefi a phentrefi gwledig; cyllido marchnadoedd ffermwyr ledled Cymru; cefnogi cystadleuaeth y diwydiant amaethyddol; cefnogi gwelliannau amgylcheddol gan ffermwyr.

Sefydlu Dyfarnydd y bydd ei ddyletswyddau'n cynnwys rheoleiddio cynllun iaith Gymraeg y Cynulliad Cenedlaethol a helpu'r cyhoedd i dderbyn gwasanaethau cyhoeddus drwy'r Gymraeg.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Diwylliant

Economi

Addysg

Amgylchedd

Y Teulu

Iechyd

Tai

Materion Gwledig

Yr Iaith Gymraeg

Ymgyrchu dros ddatganoli holl wasanaethau cyfiawnder troseddol i Gymru er mwyn datrys ein problemau ni'n hunain; blaenoriaethu triniaeth am gamddefnyddio sylweddau; datblygu strategaeth diogelwch cymunedol ar gyfer Cymru.

Hybu gweithgaredd artistig a diwylliannol i bawb drwy Gymru; sefydlu corff fel Theatr Genedlaethol Cymru i weithio yn y Saesneg; Oriel Genedlaethol ar gyfer celfyddydau gweledol.

Ymrwymedig i gynaladwyedd a datblygu rhanbarthau a chymunedau; manteision treth i ysgogi busnes lleol; meini prawf cynaladwyedd ar gyfer prosiectau economaidd; taclo diweithdra cudd; pwysleisio uwchraddio sgiliau.

Gliniaduron ar gyfer holl ddisgyblion o 11 oed ymlaen; bagloriaeth eang i ddisodli Lefel A a TGAU; dewis o gymhwyster galwedigaethol neu academig yn 14 oed.

Torri lledaeniad CO2 gan 3% y flwyddyn; gweithredu cynllun arbed ynni cenedlaethol gan gynnwys grantiau hyd at 50%; ymgyrch genedlaethol i gael gwared ar fylbiau gwynias.

Darparu gofal plant fforddiadwy cyffredinol; cyflwyno cynllun iechyd cynhwysfawr i blant; grantiau ar gyfer prynwyr tro cyntaf; sefydlu canolfannau er budd mewn cymunedau ar draws Cymru.

Cynllun gweithredu cynhwysfawr ar gyfer plant gan nyrsys ysgol; gwasanaethau deintyddol mewn ysgolion a mwy o adnoddau ar gyfer addysg gorfforol; sefydlu canolfannau er budd; buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Hyd at £5,000 o grant ar gyfer prynwyr tro cyntaf; gadael i gynghorau flaenoriaethu anghenion tai lleol; diddymu 'Hawl i Brynu' ble mae diffyg llety ar rent.

Cefnogaeth ar gyfer y cynllun Tir Mynydd; gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer canfod bwyd yn lleol; cynllun mynediad ifanc ar gyfer ffermio.

Deddf yr Iaith Gymraeg Newydd i sicrhau statws swyddogol i'r iaith a chomisiynydd iaith; strategaeth addysg Gymraeg Genedlaethol o'r feithrinfa i addysg bellach ac uwch.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Diwylliant

Economi

Addysg

Amgylchedd

Y Teulu

Iechyd

Tai

Materion Gwledig

Yr Iaith Gymraeg

Rhwydwaith o ganolfannau warden lleol i daclo mân droseddau ac ymddygiad anghymdeithasol; cynyddu'r nifer o lefydd dadwenwyno alcohol/cyffuriau gan gynnwys gofal preswyl.

Sefydlu Oriel Genedlaethol; Nod Siarter yn y celfyddydau i ysgolion; ymgeisio am ddigwyddiadau mawr y byd chwaraeon megis Gemau'r Gymanwlad.

Cymhelliad i gwmnïau sy'n cynnig gofal plant/oriau hyblyg i rieni /gofalwyr; cyfradd well i fusnesau bychain; grantiau i helpu'r ardaloedd mwyaf difreintiedig; adnewyddu canolfannau glan môr.

Mesurau i hybu diogelwch bysiau ysgol; mwy o arian i ysgolion a phrifysgolion; mwy o bwyslais ar addysg alwedigaethol; cadw Cymru'n rhydd rhag ffioedd atodol.

Bylbiau trydan ynni isel £20 ar gyfer bob tŷ hybu technoleg ynni adnewyddadwy; cefnogi corff annibynnol i osod targedau lleihau allyriad a monitro cynnydd; llai o becynnu mewn archfarchnadoedd.

Sefydlu polisïau i symud Cymru tuag at gael gwared ar dlodi plant erbyn 2020 - cynllun gweithredu gyda thargedau eglur, mesuradwy i fonitro cynnydd wrth gael gwared ar dlodi plant.

Gwell mynediad i feddygaeth; canolfannau iechyd galw i mewn; ysbytai glanach; diwygiadau iechyd meddwl; moderneiddio'r gwasanaeth ambiwlans; mwy o gyllid i hosbisau; gorffen ad-drefnu ysbytai.

£16 miliwn y flwyddyn yn fwy o wariant i helpu prynwyr tro cyntaf; £100 oddi ar filiau treth y cyngor ar gyfer pob cartref pensiynwr yng Nghymru.

Gwarchod buddsoddiad amaethyddol; helpu ffermwyr llaeth; adfer cynllun ffermio Tir Mynydd; systemau cynllunio hyblyg i warchod cymunedau gwledig.

Buddsoddi mwy yn yr Eisteddfod Genedlaethol; deddfu er mwyn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg; penodi comisiynydd annibynnol ar gyfer yr iaith; adolygu ac arolygu Deddf yr Iaith Gymraeg.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Diwylliant

Economi

Addysg

Amgylchedd

Y Teulu

Iechyd

Tai

Materion Gwledig

Yr Iaith Gymraeg

500 Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol; cyfiawnder adferol; cosbau cymunedol llym; Cytundebau Ymddygiad Derbyniol; tasglu triniaeth camddefnyddio sylweddau; lobïo ar gyfer plismona ddatganoledig; cynghorau i ddarparu cyfleusterau pobl ifanc.

Gŵyl y banc ar Ddydd Gŵyl Dewi; cadw'r celfyddydau yn annibynnol o'r llywodraeth; cefnogi cael gwared ar yr hyn sy'n atal cyfryngau cymunedol; datblygu rhaglen arddangosfa fodern, uchelgeisiol.

Lleihau'r baich ar fusnes; buddsoddiad mewn cludiant cyhoeddus; canolfannau cludiant mewn gorsafoedd bws /rheilffordd; hybu swyddi ac arbenigedd diwydiant gwyrdd; Cymalau machlud ar reoliadau busnes newydd.

Dosbarthiadau llai; gwella adeiladau ysgol, dysgu arbenigol yn y sector cynradd; ciniawau ysgol iachach; cludiant diogelach i'r ysgol; cadw £1,800 o ad-daliad i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio yng Nghymru.

Trydan 100% adnewyddadwy erbyn 2050; adeiladau newydd carbon niwtral erbyn 2015; rheoliadau adeiladau gwyrddach; cymhellion micro-generadiad; ailgylchu, lagwnau llanw, cynlluniau trên, bws a seiclo.

Ehangu gofal rhan amser i blant dyflwydd i nifer mwy o gymunedau; mwy o hawliau i ofalwyr; hybu gwell defnydd o adeiladau ysgol fel canolfan i'r gymuned.

Canolfannau iechyd galw i mewn yn cael eu harwain gan nyrsys; ehangu ar ganolfannau gofal cychwynnol; deintyddion gwledig symudol; brwsh dannedd am ddim ar gyfer pob plentyn; gofal safonau'r gwasanaeth iechyd o leiaf; cyflwyno deddf hawliau i ofalwyr.

Lleihau tai gwag; atal hawl i brynu; adeiladu mwy o dai; ehangu cynllun Homebuy i helpu gweithwyr allweddol; hybu Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol, sicrhau buddsoddiad Cymdeithasau Tai.

Cynllun tyfu cnydau; darparu mwy o dai - yn enwedig i brynwyr tro cyntaf; cefnogi swyddfeydd post; 'bargen deg' i gynhyrchwyr; hybu peiriannau arian am ddim; lleihau rhyddhad carbon.

Deddf yr Iaith Gymraeg newydd yn rhoi hawliau i bobl; rhoi pwerau dull comisiynydd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg a'i gadw'n annibynnol o Lywodraeth Cynulliad Cymru.


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^